Darparwn gefnogaeth a chyngor i luoedd heddlu er mwyn datrys achosion pobl coll a cynorthwywn gydag adnabod cyrff a gweddillion dynol.  Rydym hefyd yn cynnal bàs data canolog cenedlaethol o bobl coll ac achosion dienw.

Mae’r ystod o wasanaethau a ddarperir i luoedd heddlu yn cynnwys:

-         Croesgyfeirio cenedlaethol a rhyngwladol o pobl coll â phobl dienw, cyrff a gweddillion dynol

-         Cydlynu ymholiadau gyda’n rhwydwaith o bartneriaid

-         Cymorth trefniadol ynglŷn ag adennill a chadw deunydd fforensig yn effeithiol

-         Cyngor tactegol a chefnogaeth i achosion amheus, megis achosion lle mae amheuaeth o lofruddiaeth a llofruddiaethau heb gorff, ac adolygiadau achosion oer

-         Mynediad at gyngor arbenigol gan arbenigwyr mewn ystod o feysydd

-         Coladu a lledaenu arfer da mewn ymchwiliadau pobl coll

-         Darparu hyfforddiant i luoedd heddlu ar ymchwiliadau pobl coll ac achosion dienw

Back to the top