Ni yw’r pwynt cyswllt cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer pob ymchwiliad pobl coll a chyrff dienw.  Ni yw’r unig asiantaeth yn y Deyrnas Unedig sydd yn canolbwyntio yn unig ar bobl coll.  Rydym yn gwasanaethu pob llu heddlu yn y DU yn ogystal ag asiantaethau heddlu tramor.

Rydym yn ganolbwynt ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a darparu arbenigedd ym maes pobl coll.  Darparwn wasanaeth cynhwysfawr ar gyfer pob ymchwiliad person coll trwy gefnogi gweinyddwyr y gyfraith ac asiantaethau eraill.

Mae ein bàs data cenedlaethol yn cyflawni swyddogaeth unigryw sy’n galluogi croesgyfeirio pobl coll â phobl dienw, cyrff a gweddillion dynol.

Mae ein profiad helaeth o ymdrin ag ymchwiliadau pobl coll ac ymchwiliadau cyrff dienw yn darparu gwasanaeth hanfodol i luoedd heddlu a gall helpu datrys achosion a fyddai fel arall heb eu datrys.  Gall hyn arbed cryn amser ac adnoddau i luoedd heddlu a dod â’r mater i derfyn i deuluoedd a ffrindiau pobl coll a dienw. 

Back to the top