Mae’r wefan hon wedi’i dylunio â hygyrchedd mewn golwg, er mwyn cwrdd â’ch anghenion a’ch cynorthwyo i ddarganfod yr wybodaeth y ceisiwch.  Hysbyswch ni os profwch broblem yn cyrchu neu ddarllen y deunydd os gwelwch yn dda ac mi geisiwn ddarparu’r wybodaeth mewn ffordd mwy hygyrch sy’n ddefnyddiol i chi.

Mae’r safle hwn wedi’i ddylunio i gydymffurfio â’r W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0 level Double-A, COI Web Standards and Guidelines ac eGif v6.2.  Rydym wedi adolygu’r canllawiau a chredwn ein bod yn cydymffurfio â hwy ond os profwch unrhyw anawsterau, cysylltwch â’r Uned i ddweud wrthym os gwelwch yn dda.

Chwyddo maint yr ysgrifen

Mae’n bosib bydd rhai defnyddwyr yn medru darllen testun ar y sgrin yn well wrth chwyddo maint yr ysgrifen.  Er mwyn gwneud hyn, dylech addasu gosodiadau eich porwr. 

Gan ddibynnu ar y math o borwr sydd gennych, gwnewch un o’r canlynol:

  • os ydych yn defnyddio Mircrosoft Internet Explorer, ewch i’r ddewislen View, dewiswch Text Size ac yna Larger neu Largest
  • os ydych yn defnyddio FireFox gwasgwch a daliwch y fysell Ctrl yna gwasgwch y fysell + i chwyddo’r ysgrifen
  • os ydych yn defnyddio Safari ewch i’r ddewislen View yna dewiswch Make Text Bigger

Dogfennau y gellir eu llwytho i lawr

Lle mae’n bosib, rydym yn cynnwys ffeiliau y gellir eu llwytho i lawr ar ffurf Adobe PDF.  Er mwyn gweld y ffeiliau hyn, bydd angen Adobe Acrobat Reader arnoch.  Gellir ei lawrlwytho am ddim o wefan Adobe:

Download Acrobat Reader

Ymwelwch â http://access.adobe.com am offer sy’n trawsffurfio ffeiliau PDF i html neu ffeiliau testun ac am ragor o wybodaeth am PDFs a hygyrchedd.

Cymorth wrth chwilio am wybodaeth

Er mwyn chwilio am dudalen neu destun penodol, teipiwch ychydig o eiriau disgrifiadol ym mlwch Chwilio’r wefan yng nghornel dde uchaf y sgrîn a gwasgwch y fysell enter neu gliciwch ar y botwm chwilio.  Bydd canlyniadau’r chwiliad yn cael eu harddangos fel rhestr o deitlau tudalen a disgrifiadau yn nhrefn eu perthnasedd er mwyn i chi ddewis.

Back to the top