Darparwn gefnogaeth a chyngor i luoedd heddlu er mwyn datrys achosion pobl coll a cynorthwywn gydag adnabod cyrff a gweddillion dynol. Rydym hefyd yn cynnal bàs data canolog cenedlaethol o bobl coll ac achosion dienw.
Mae’r ystod o wasanaethau a ddarperir i luoedd heddlu yn cynnwys:
- Croesgyfeirio cenedlaethol a rhyngwladol o pobl coll â phobl dienw, cyrff a gweddillion dynol
- Cydlynu ymholiadau gyda’n rhwydwaith o bartneriaid
- Cymorth trefniadol ynglŷn ag adennill a chadw deunydd fforensig yn effeithiol
- Cyngor tactegol a chefnogaeth i achosion amheus, megis achosion lle mae amheuaeth o lofruddiaeth a llofruddiaethau heb gorff, ac adolygiadau achosion oer
- Mynediad at gyngor arbenigol gan arbenigwyr mewn ystod o feysydd
- Coladu a lledaenu arfer da mewn ymchwiliadau pobl coll
- Darparu hyfforddiant i luoedd heddlu ar ymchwiliadau pobl coll ac achosion dienw