Ni yw’r pwynt cyswllt cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer pob ymchwiliad pobl coll a chyrff dienw. Ni yw’r unig asiantaeth yn y Deyrnas Unedig sydd yn canolbwyntio yn unig ar bobl coll. Rydym yn gwasanaethu pob llu heddlu yn y DU yn ogystal ag asiantaethau heddlu tramor.
Rydym yn ganolbwynt ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a darparu arbenigedd ym maes pobl coll. Darparwn wasanaeth cynhwysfawr ar gyfer pob ymchwiliad person coll trwy gefnogi gweinyddwyr y gyfraith ac asiantaethau eraill.
Mae ein bàs data cenedlaethol yn cyflawni swyddogaeth unigryw sy’n galluogi croesgyfeirio pobl coll â phobl dienw, cyrff a gweddillion dynol.
Mae ein profiad helaeth o ymdrin ag ymchwiliadau pobl coll ac ymchwiliadau cyrff dienw yn darparu gwasanaeth hanfodol i luoedd heddlu a gall helpu datrys achosion a fyddai fel arall heb eu datrys. Gall hyn arbed cryn amser ac adnoddau i luoedd heddlu a dod â’r mater i derfyn i deuluoedd a ffrindiau pobl coll a dienw.