Hysbysiad preifatrwydd
Mae’r dudalen hon yn disgrifio Polisi Preifatrwydd gwefan Uned Pobl Coll y Deyrnas Unedig (UK Missing Persons Bureau). Nid yw’n berthnasol i wefannau eraill yr ydym yn cysylltu â hwy a allai fod â’u polisïau preifatrwydd eu hunain.
Ymwelwyr â’n gwefan
Pan fo person yn ymweld â’r wefan, byddwn yn casglu gwybodaeth log rhyngrwyd sylfaenol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn i ddarganfod gwybodaeth fel y niferoedd o ymwelwyr i rannau gwahanol y safle. Rydym yn casglu’r wybodaeth mewn ffordd nad sy’n adnabod neb. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymdrech i ddarganfod pwy yw’r ymwelwyr â’n gwefan. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gesglir o’r safle hwn gydag unrhyw wybodaeth bersonol o unrhyw ffynhonnell a fedri ddatgelu pwy yr ydych. Os ydym am gasglu gwybodaeth bersonol sy’n caniatáu adnabod unigolyn, byddwn yn datgan hynny. Byddwn yn ei gwneud yn glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol ac yn esbonio beth yw’n bwriad wrth wneud hynny. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y pwrpas a nodir yn unig.
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir yn cael ei chadw mewn lle diogel a bydd mynediad ati yn cael ei gyfyngu yn unol â’r egwyddor “angen gwybod.”
Defnydd o gwcis
Mae cwcis yn ffeiliau testun bychain sy’n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur gan wefannau yr ydych yn ymweld â hwy. Maent yn cael eu defnyddio yn eang er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithiol, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y safle.
Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu peth reolaeth ar gwcis trwy osodiadau y porwr. Er mwyn darganfod mwy am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi eu gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, ymwelwch â www.allaboutcookies.org.
Er mwyn eithrio o gael eich dilyn gan Google Analytics, dros bob gwefan, ymwelwch â http://tools.google.com/dlpage/gaoptout.
Gwybodaeth a ddarperir trwy ein gwefan
Gall unrhyw wybodaeth a roddir i’r Uned gan ddefnyddwyr y safle gael ei datgelu i weinyddwyr y gyfraith neu gyd asiantaethau, os y’i hystyrir yn briodol a pherthnasol i’w wneud.
Pan yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r achosion a ddangosir ar y wefan hon, byddwch yn cael y dewis o ddarparu manylion personol sy’n caniatáu eich hadnabod neu i ddarparu’r wybodaeth yn anhysbys. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw wybodaeth a ddarperir trwy’r wefan gydag unrhyw wybodaeth bersonol a fedr datgelu pwy yr ydych o unrhyw ffynhonnell arall. Byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth bersonol a ddarparwyd i brosesu’r manylion a phenderfynu’r dull gorau o drin yr achos ac i wirio safon y gwasanaeth a ddarperir.
Pobl sydd yn defnyddio gwasanaethau’r Uned
Mae’r Uned yn cynnig gwasanaethau amrywiol trwy gyfrwng y wefan hon. Er enghraifft, rydym yn galluogi unigolion i nodi diddordeb mewn digwyddiadau arfaethedig ac yn dosbarthu cylchlythyr electronig. Mae’n rhaid i ni gadw manylion y bobl sydd wedi cofrestru am y gwasanaeth er mwyn ei ddarparu. Fodd bynnag, rydym ond yn defnyddio’r manylion ar gyfer y gwasanaeth yr holwyd amdano ac at bwrpasau cysylltiedig. Er enghraifft, gallwn ddefnyddio gwybodaeth am bobl a nododd ddiddordeb mewn cynhadledd i gynnal arolwg er mwyn darganfod a ydynt yn hapus â lefel y gwasanaeth a dderbyniwyd. Pan fydd pobl yn tanysgrifio i’n gwasanaethau, gallant ddileu eu tanysgrifiad ar unrhyw adeg a darperir dull hawdd o wneud hynny.
Drafftiwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn gyda golwg ar fod yn glir ac yn gryno. Nid yw’n darparu manylion cynhwysfawr o bob agwedd ar y casgliad a’r defnydd o wybodaeth bersonol gan yr Uned. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol os dymunir. Dylid anfon ceisiadau o’r fath i’r cyfeiriad isod.
Bydd unrhyw newidiadau i’n polisi preifatrwydd yn cael eu postio ar y dudalen hon. Beth bynnag fo’r diweddariadau, ni fyddwn, ar unrhyw gyfrif, yn defnyddio’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu mewn modd newydd heb roi’r cyfle i chi ei rwystro.